Teimladau
Mae teimladau yn bethau rhyfedd iawn, ond allwn ni reoli nhw?
Allwn ni droi nhw ymlaen ac i ffwrdd?
Ydy teimladau'n rheoli ein bywydau?
Wyt ti'n ofn dweud wrth rywun sut wyt ti'n teimlo amdanynt?
Dwi ddim yn meddwl ein bod yn gallu rheoli ein teimladau. Mae yna bobl mae gen i deimladau amdanynt a hoffwn petai gen i ddim. Am fy mod i'n gwybod nad fydd hyn byth yn digwydd a hefyd os byddant yn darganfod am hyn yna byddai pethau'n annifyr iawn.
Weithiau gallet ddarganfod dy hun mewn sefyllfa ble ti'n meddwl byddai'n llawer haws os bydda gen ti deimladau am rywun ond fedri di ddim helpu nad yw'r teimladau yno gen ti.
Dwi ddim yn meddwl bod posib i ni droi'r teimladau yma ymlaen ac i ffwrdd chwaith. Ond dwi yn meddwl gallwn anwybyddu teimladau neu beidio gweithredu arnynt. Byddant yno am ychydig ond fedri di ddim troi o i ffwrdd. Ti'n meddwl amdano ar ôl i'r funud basio. Wel dwi yn beth bynnag.
Mae teimladau yn rheoli popeth rydym yn ei wneud. Os nad oes gennym deimlad da am rywbeth yna rydym yn osgoi ei wneud os gallem. Ac mae'r un peth yn wir os oes gennym deimlad da am rywbeth rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud llwyddiant ohono.
Dwi yn wastad yn ofn dweud wrth rywun sut dwi'n teimlo. Dwi ddim eisiau iddynt boeni amdanaf i a gyda rhai pobl dwi ddim eisiau iddynt wybod. Os byddai pawb dwi'n hoffi yn gwybod fy mod i'n hoffi nhw byddwn i byth yn cerdded allan drwy'r drws.
Dwi ddim ofn darganfod sut mae pobl yn teimlo amdanaf i. Byddai'n well gen i wybod am dy fod di'n gallu siarad gyda nhw am y peth a gwybod lle mae'r ddau ohonoch yn sefyll. Iawn, gallai wneud pethau yn annifyr rhyngot ti a'r person arall ond dim ond os wyt ti'n gadael i hynny ddigwydd. Gallet ti gael perthynas dda iawn gyda rhywun hyd yn oed os oes gen ti deimladau cryfach amdanynt nag sydd ganddyn nhw amdanat ti.
Mae teimladau yn beth rhyfedd. Gallent newid mor sydyn ond y peth pwysig ydy i gadw'n bositif ac os wyt ti'n meddwl fod o'n iawn yna cer amdani a dweud wrthynt. Ti byth yn gwybod beth allai ddigwydd.
Tudalennau Teulu a Pherthnasoedd.





