Croeso i Bwsted! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Bridgend

Rhywun Arbennig

Postiwyd gan Kinghamster o Penybont ar Ogwr - Cyhoeddwyd ar 26/01/2012 am 16:27
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Pobl

  • llythyr

English version

Annwyl Charlotte,

Dwi'n ysgrifennu hwn i ddweud wrthyt ti'r holl bethau dwi ofn ddweud yn dy wyneb.

I ddeud yr holl bethau dwi'n teimlo tu mewn a dyma'r unig ffordd dwi'n gwybod sut i gael nhw allan.

Wrth siarad gyda thi am y pethau sydd wedi gwneud i mi sylweddoli'r pethau dwi angen newid yn fy mywyd.

Rwyt ti wedi bod yno i mi pan dwi mewn lle erchyll ac am ryw reswm ti yn wastad wedi poeni am sut dwi'n teimlo a beth dwi'n feddwl.

Nid oes llawer o bobl byddwn i yn cysidro'n ffrind y dyddiau hyn ond ti yn bendant yn un ohonynt.

Hoffwn i os gallwn i siarad gyda thi am gymaint o bethau ond dwi ofn gadael ti i mewn, gan fy mod i ofn nad fyddi di byth yn teimlo'r un ffordd â fi.

Byddaf yno bob tro i bigo ti fyny pan ti'n disgyn. Mae gen i ysgwydd yn rhydd drwy'r adeg er mwyn i ti wylo arno er fy mod yn gwybod nad fyddet ti'n gwybod hynny nac yn ei ddefnyddio fo, ond bydd yno bob tro. Ti yn un o'r bobl fwyaf anhygoel dwi wedi'i gyfarfod erioed ac mae meddwl amdanat ti yn rhoi gwen ar fy wyneb drwy'r adeg.

Ti bob tro efo ffydd ynof i ac yn dweud fy mod i'n well na dwi'n meddwl ydw i. Ti bob tro yn rhoi teimlad cynnes i mi ar y tu mewn a pan dwi o dy gwmpas nid all dim mynd o'i le. Ti byth yn gwybod mewn gwirionedd sut dwi'n teimlo ac yn meddwl amdanat ti bob dydd ond yna pam fyddet ti?

Ni fyddwn i byth yn dweud yn agored nac dangos sut dwi'n teimlo. Hoffwn bob dydd y gallwn i ddweud wrthyt ti ond dwi mor ofn. Mae llawer o bobl wedi dweud nad fyddet ti yn poeni os byddwn i ac efallai byddai'n dda i mi gael rhannu fy nheimladau. Ond ydw i am beryglu'r cyfeillgarwch sydd rhyngom?

Os wyt ti byth yn sylweddoli fod hwn amdanat ti yna paid bod ofn oherwydd o leiaf byddi di yn gwybod byddaf yn ffrind i ti am byth pa bynnag ffordd mae bywyd yn mynd a ni. Rhyw ddydd dwi'n gobeithio dod o hyd i rywun union fel ti ond ar hyn o bryd dwi'n gwybod dy fod di yno i mi a dwi ddim ar ben fy hun yn y byd.

Danny

Tudalennau Teulu a Pherthynas

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.