Croeso i Bwsted! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Bridgend

Gwybodaeth » Iechyd » Iechyd Emosiynol a Meddyliol » Hunan-Niweidio

Gall hunan niweidio gynnwys

  • torri
  • llosgi
  • sgaldio
  • taro pennau a rhannau eraill o'r corff yn erbyn waliau
  • tynnu gwallt
  • cnoi
  • llyncu neu fewnosod gwrthrychau
  • hunan wenwyno

Mae'n arwydd o drallod emosiynol fod rhywbeth yn ddifrifol o'i le. Mae hunan niweidio yn rhywbeth hynod bersonol ac mae unigolion yn debygol o fod â dull a rhan o'r corff a ffafrir ganddynt i niweidio eu hunain.

Er bod rhai pobl yn ei weld fel ‘rhyddhad' o'u problemau, gall hunan-niweidio arwain at anaf neu haint difrifol. Er y defnyddir hwn fel arfer fel dull o ymdopi, gall hunan-niweidio arwain at hunanladdiad mewn rhai achosion.

Os ydych yn teimlo'n ddigalon, yn bryderus neu os ydych yn cael teimladau sy'n arwain at hunan-niweidio, rhowch gynnig ar siarad â rhywun. Nid oes raid i'r person hwn fod yn aelod o'r teulu neu yn warcheidwad, gallech siarad â ffrindiau, eich meddyg neu athro neu athrawes yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi. Mae digon o linellau cymorth cyfrinachol ar gael hefyd gyda phobl sy'n barod i wrando.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50