Croeso i Bwsted! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Bridgend

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Rhybudd

Y rhybudd sy'n rhaid i'ch cyflogwr ei roi i chi

  • Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr hawl i gael rhybudd os yw eu cyflogwr yn dymuno dod â'u cyflogaeth i ben.
  • Mae'ch hawliau cyfreithiol yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr. Mae gennych chi hawl i:
    • Wythnos o rybudd pan rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr am gyfnod sydd rhwng un mis a dwy flynedd
    • Wythnos o rybudd am bob blwyddyn gyflawn rydych chi wedi gweithio, os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am gyfnod sydd rhwng dwy flynedd a deuddeg mlynedd.
    • Deuddeg wythnos o rybudd os ydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am ddeuddeg mlynedd neu fwy.
  • Yn ogystal â'r hawliau cyfreithiol yma, efallai fod gennych chi hefyd hawliau pellach y mae'ch contract cyflogaeth yn eu darparu.

Y rhybudd sy'n rhaid i chi ei roi i'ch cyflogwr

  • Mae'n rhaid ichi roi o leiaf wythnos o rybudd pan rydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr am un mis neu fwy.
  • Os yw'n ofynnol yn eich contract cyflogaeth eich bod chi'n rhoi mwy na wythnos o rybudd, yna dylech chi ei roi.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50