Croeso i Bwsted! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Bridgend

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Oriau Gweithio

  • Dylai'ch contract cyflogaeth fanylu ar eich oriau gwaith arferol.
  • Dylai'ch amodau cyflogaeth ddweud pa oriau a phatrymau gweithio sy'm n rhan o'ch swydd. Efallai na fydd gennych chi gontract ysgrifenedig, ond mae'n rhaid i weithwyr gael manylion eu prif amodau a thelerau yn ysgrifenedig - gan gynnwys oriau gweithio - cyn pen dau fis o ddechrau yn y swydd.
  • Ni ddylai'r rhan fwyaf o weithwyr orfod gweithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd, yn ôl y Rheoliadau Amser Gwaith, os nad ydych chi'n gweithio mewn sector sydd â'i reolau arbennig ei hun (gwelwch isod).
  • Mae'r Rheoliadau Amser Gwaith hefyd yn rhoi hawliau ichi gael gwyliau â thâl, egwyliau gorffwys a chyfyngiadau ar weithio yn y nos.

Gweithwyr ifanc

  • Os ydych chi'n iau na 18 oed ac yn hŷn nag oedran gadael ysgol (rydych chi'n iau nag oedran gadael ysgol hyd ddiwedd tymor yr haf yn ystod y flwyddyn ysgol pan rydych chi'n cael eich pen-blwydd yn 16 oed), rydych chi'n cael eich ystyried yn weithiwr ifanc.
  • Fel rheol, ni ellir gwneud i weithwyr ifanc weithio mwy nag wyth awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Ni cheir cyfartalu'r oriau hyn dros gyfnod hwy. Mae yna rai eithriadau i'r rheolau hyn.

Pwy sydd wedi'u heithrio o'r rheoliadau amser gwaith?

  • Nid yw'r Rheoliadau Amser Gwaith yn cynnwys eich wythnos gweithio chi os ydych chi'n gweithio yn y meysydd canlynol:
    • swyddi lle rydych chi'n rhydd i ddewis pa mor hir y byddwch chi'n gweithio ee gweithredwr rheoli
    • mae'r lluoedd arfog, y gwasanaethau brys a'r heddlu wedi'u heithrio mewn rhai amgylchiadau
    • gweision domestig mewn tai preifat
    • meddygon dan hyfforddiant
    • gweithwyr symudol yn y diwydiant cludiant (naill ai ar y ffordd, ar y rheilffordd, yn yr awyr neu ar y môr).

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50