Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Gwyliau ac Amser o'r Gwaith
- Dylai manylion am wyliau â thâl a gwyliau di-dâl y mae gennych chi hawl iddyn nhw fod yn eich contract cyflogaeth.
Gwyliau blynyddol
- Mae gan bob gweithiwr hawl statudol i o leiaf bedair wythnos o wyliau blynyddol â thâl (hynny yw 20 diwrnod o wyliau â thâl os ydych chi'n gweithio pum diwrnod yr wythnos).
- Hwn yw isafswm yr hawl i wyliau â thâl, ond efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig mwy na hyn.
- Dyma'r prif bethau y dylech chi eu gwybod am eich hawliau o ran gwyliau:
- byddwch chi'n cael lleiafswm o bedair wythnos
- byddwch chi'n dechrau adeiladu gwyliau cyn gynted ag y byddwch chi'9 n dechrau gweithio
- gall eich cyflogwr reoli pryd y byddwch chi'n cymryd eich gwyliau
- telir eich cyflog arferol ichi yn ystod eich gwyliau
- pan fyddwch chi'n gorffen swydd, byddwch chi'n cael eich talu am unrhyw wyliau nad ydych chi wedi'u cymryd
- Dylai'ch contract cyflogaeth fod yn hollol glir ynghylch nifer y dyddiau y mae gennych chi hawl iddyn nhw, pryd y cewch chi eu cymryd a ph'un a gewch chi gario dyddiau ymlaen i'r flwyddyn nesaf ai peidio.
Gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus
- Nid oes gennych chi hawl statudol i wyliau â thâl ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus.
- Os rhoddir gwyliau â thâl ar ŵyl y banc neu ŵyl gyhoeddus, gall hyn gyfrif tuag at yr isafswm o bedair wythnos o wyliau y mae gennych chi hawl i'w gael.
- Mae yna wyth o wyliau banc a gwyliau cyhoeddus sefydlog ym Mhrydain Fawr.
- Os byddwch chi'n gweithio ar ŵyl y banc neu ŵyl gyhoeddus, ni fydd gennych chi hawl, o reidrwydd, i dderbyn cyfradd cyflog uwch.
- Mae'r hyn y byddwch chi'n cael eich talu'n dibynnu ar eich contract cyflogaeth.
- Os bydd gweithwyr amser llawn yn cael gwyliau â thâl ar ŵyl gyhoeddus, mae gan weithwyr rhan-amser nad ydyn nhw fel arfer yn gweithio ar y diwrnod hwnnw hawl i gael gwyliau â thâl ar ddiwrnod arall, yn gymesur â'r oriau maen nhw'n eu gweithio.
- Mae gan Cyngor ar Bopeth wybodaeth am wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
http://www.adviceguide.org.uk/CY/wales/life/employment/bank_and_public_holidays.htm
Amser o'r gwaith i Astudio neu Hyfforddi
- Bellach, mae gan bobl ifanc 16 neu 17 mlwydd oed sydd â swydd, ond sydd ag ychydig, neu ddim cymwysterau, hawl i gael amser o'r gwaith â thâl i astudio neu hyfforddi.
- I ddod i wybod mwy am hyn, ewch i
http://www.direct.gov.uk/cy/YoungPeople/index.htm
Absenoldeb salwch
- Mae gan wahanol gyflogwyr drefniadau gwahanol ynglŷn ag absenoldeb salwch.
- Mae'n dibynnu llawer ar y math o gontract sydd gennych chi, a faint o gyflog rydych chi'n ei ennill.
- Os oes angen ichi gymryd amser o'r gwaith oherwydd salwch, dylech chi ffonio'ch cyflogwr yn syth, neu dylech chi ofyn i rywun arall wneud hynny ar eich rhan.
- Fel rheol, os ydych chi'n cymryd mwy na thri neu bedwar diwrnod o'r gwaith oherwydd salwch, bydd angen ichi gael nodyn salwch (llythyr) oddi wrth eich meddyg yn esbonio beth oedd yn bod. Os na fyddwch chi'n dweud wrth eich cyflogwr, efallai y bydd yn cwtogi ar eich cyflog.
- Os byddwch chi'n sâl am bedwar diwrnod yn olynol, neu fwy (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus), mae gennych chi hawl i wneud cais am Dâl Salwch Statudol. Fodd bynnag, cyn y gallwch chi ei hawlio, mae'n rhaid ichi fod yn ennill mwy na'r terfyn cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol. Dyma'r swm lleiaf y gallwch chi ei ennill pan mae'n rhaid ichi dalu cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol (sef £69 yr wythnos, ar hyn o bryd).
- Gall Tâl Salwch Statudol bara am hyd at 28 wythnos. Os byddwch chi dal yn methu â dychwelyd i'r gwaith, dylech chi gysylltu â'ch Swyddfa Asiantaeth Budd-daliadau leol i gael cyngor.
- Bydd llawer o gyflogwyr yn cynnig mwy na'r swm y mae Tâl Salwch Statudol yn ei dalu. Yn yr achos yma, gall cyflogwyr hawlio'r Tâl Salwch Statudol yn ôl oddi wrth y llywodraeth, a thalu'r gweddill eu hunain.
Absenoldeb Tosturiol/Absenoldeb Arbennig
- Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn caniatáu ichi gymryd amser o'k r gwaith ar gyfer absenoldeb tosturiol (mewn achos o brofedigaeth, salwch difrifol neu amgylchiadau personol). Fel rheol, mae hyn yn cael ei drefnu ar sail amgylchiadau arbennig, ac nid yw'n cael ei gynnwys yn eich gwyliau blynyddol.
Hawliau eraill i gael gwyliau â thâl
- Os ydych chi wedi cael gwybod eich bod ar fin colli'ch swydd, mae gennych chi hefyd hawl i gymryd amser o'r gwaith i ymgeisio am swyddi newydd.
- Dylech chi fod yn glir ynghylch faint o amser yn union sydd wedi'i ganiatáu ichi. Y peth gorau yw trafod hyn gyda'ch goruchwyliwr.
- Dylai cyflogwr hefyd gynnig amser o'r gwaith â thâl ar gyfer gwaith rydych chi'n ei wneud fel swyddog undeb llafur, neu swyddog iechyd a diogelwch undeb.
- Hefyd, gall cyflogwr gynnig amser o'r gwaith i gymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur, i wasanaethu ar reithgor, i fod yn gynghorydd lleol, yn llywodraethwr ysgol neu'n Ynad Heddwch. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid talu am yr amser a gymerir i wneud y gweithgareddau yma.
Hawliau absenoldeb pan rydych chi'n feichiog (cyfnod mamolaeth)
- Os ydych chi'n gweithio, ac yn feichiog, mae gennych chi hawliau penodol yn ôl y gyfraith. Does dim ots am ba mor hir rydych chi wedi bod yn gweithio gyda'ch cyflogwr na nifer yr oriau'r wythnos rydych chi'n eu gweithio.
- Mae gennych chi'r hawl i gymryd amser sy'n rhesymol o'r gwaith ar gyfer gofal cynenedigol ac 14 wythnos o gyfnod mamolaeth. Cewch ddechrau unrhyw bryd o 6 wythnos cyn dyddiad geni'r baban. Ar ddiwedd eich 14 wythnos, cewch chi ddychwelyd i weithio yn yr un swydd.
- Mae hi'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr eich diswyddo am unrhyw reswm sy'n gysylltiedig â'ch beichiogrwydd neu'ch cyfnod mamolaeth.
- Mae tribiwnlysoedd diwydiannol hefyd wedi datgan ei bod hi'n anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn menywod beichiog wrth ystyried ymgeiswyr am swydd.
- Os ydych chi wedi bod gyda'ch cyflogwr am 2 flynedd yn ddi-dor, gallwch chi aros o'r gwaith i fod gyda'ch baban am gyfnod hwy, yn para hyd at gyfanswm o 40 wythnos.
- Mae hyn yn wir cyn belled â'ch bod chi'n dychwelyd i'r gwaith erbyn diwedd yr 28ain wythnos ar ôl yr wythnos y cafodd y baban ei eni.
- Yn ystod y cyfnod pan fyddwch chi o'r gwaith byddwch chi'n cael naill ai Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth, gan ddibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol (darllenwch ein herthygl yn yr Adran Arian).
- Mae'n rhaid ichi hefyd ddilyn y gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod i'ch cyflogwr beth yw'ch cynlluniau ar gyfer cyfnod mamolaeth, fel nad ydych chi'n colli'ch hawl i ddychwelyd i'ch swydd wedi i'r baban gael ei eni.
- Y gofynion statudol ar gyfer cyfnod mamolaeth yw'r manylion uchod (h.y. yr isafswm sydd wedi'i osod yn ôl y gyfraith).
- Efallai y bydd eich cyflogwr yn darparu pecyn mwy hael o fuddion mamolaeth ichi yn ôl amodau'ch contract.
- Mae gan Cyngor ar Bopeth wybodaeth am Gyfnod Mamolaeth
Amser o'r gwaith i dadau newydd (cyfnod tadolaeth)
- Erbyn hyn, mae gan dadau newydd hawl i gymryd wyth wythnos o gyfnod tadolaeth â thâl os ydyn nhw wedi bod gyda'r un cyflogwr am flwyddyn neu fwy.
- Mae'n rhaid defnyddio'r wyth wythnos cyn i'r plentyn gael ei ben-blwydd yn wyth oed.




