Croeso i Bwsted! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Bridgend

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth » Gwahaniaethu yn y Gweithle

  • Mae yna gyfreithiau sy'n golygu na chaniateir gwahaniaethu yn eich erbyn ym meysydd recriwtio, dyrchafu a'r ffordd rydych chi'n cael eich trin yn y gwaith ar sail eich:
    • Rhyw
    • Statws priodasol
    • Anabledd
    • Tarddiad ethnig
    • Hil
    • Lliw
    • Crefydd neu gred
    • Tueddfryd rhywiol
    • Oedran
  • Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
  • Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan mae rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol yn y gwaith oherwydd ei ryw, statws priodasol, hil, lliw, crefydd neu gred, oedran, tueddfryd rhywiol neu anabledd. Er enghraifft, os na fydd gweithiwr Asiaidd yn cael ei ddewis i gael dyrchafiad oherwydd ei fod yn ddu, mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.
  • Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan na fedr gweithiwr penodol fodloni gofyniad nad oes modd ei gyfiawnhau o safbwynt y gwaith ac, o ganlyniad, mae dan anfantais. Er enghraifft, os yw'r cyflogwr yn rhoi hyfforddiant i weithwyr amser llawn yn unig, byddai hynny'n gwahaniaethu'n anuniongyrchol yn erbyn menywod, gan fod y rhan fwyaf o weithwyr rhan-amser yn fenywod.
  • Mae aflonyddu hefyd yn ffurf ar wahaniaethu. Gall aflonyddu gynnwys sarhau ar lafar, sylwadau awgrymog a chyffwrdd corfforol digroeso. Efallai fod gwahaniaethu yn eich erbyn hefyd os ydych chi'n cael eich trin yn annheg o ganlyniad i geisio gweithredu yn erbyn achos o wahaniaethu.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill £50