Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Bod mewn Cyflogaeth
Fel gweithiwr mae gennych hawliau cyfreithiol gan gynnwys tâl salwch, absenoldeb mamolaeth, cael hawl i ymuno ag Undeb Llafur a bod yn rhydd rhag aflonyddwch a gwahaniaethu. Mae gennych hawliau statudol, sy’n hawliau cyfreithiol a benderfynir gan y senedd.
Dylech hefyd dderbyn contract cyflogaeth pan ddechreuwch swydd newydd, a fydd yn rhoi manylion am ba oriau y disgwylir i chi weithio, pa dâl y byddwch yn ei dderbyn a faint o wyliau taledig y mae gennych hawl iddynt.
Telir canran o’ch cyflog gan eich cyflogwr yn uniongyrchol i’r llywodraeth mewn treth ac yswiriant gwladol. Peidiwch â chael eich brawychu os gwelwch hyn ar eich slip cyflog – mae rhai pobl yn lluosi’r oriau a weithiant â’u cyfradd tâl yr awr ac yn cael sioc pan dderbyniant lai na hyn oherwydd bod eu treth a’u hyswiriant gwladol wedi eu didynnu!
ÂI blant a phobl ifanc mae rheolau arbennig am eich gwaith sy’n rheoleiddio pa adegau o’r dydd y gallwch weithio ac am ba hyd. Mae’r rhain yn wahanol yn dibynnu ar eich oed.
ÂMae’r erthyglau yn yr adran hon yn edrych ar rai o’r prif bynciau a phryderon a allai fod gennych pan ydych yn gweithio gan gynnwys y deddfau a’r hawliau sydd yno i’ch gwarchod chi fel gweithiwr.
Sefydliadau
-
The Site - Workers Rights
Information about workers rights




